SL(6)715 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2026
Cefndir a Diben
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’) yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ceisiadau i gofrestru a cheisiadau i amrywio cofrestriad o dan Ddeddf 2016.
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2026 ("Rheoliadau 2026") yn diwygio'r prif Reoliadau i roi effaith i newidiadau a gyflwynir gan adran 6A(1) o Ddeddf 2016, sy'n cyfyngu ar ddarparu gwasanaethau plant penodol i awdurdodau lleol ac endidau nid-er-elw. Mae'r gwasanaethau hyn, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "gwasanaethau plant o dan gyfyngiad", yn cynnwys gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu.
Effaith arfaethedig y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 2026 yw sicrhau bod ceisiadau i gofrestru, neu i amrywio cofrestriad mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad, yn cynnwys gwybodaeth ddigonol i ddangos cydymffurfedd â'r gofyniad statudol bod gwasanaethau o'r fath yn cael eu darparu gan endidau nid-er-elw.
Gweithdrefn
Gweithdrefn Annilysu’r Senedd
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliad 3 yn datgan bod y prif Reoliadau wedi’u diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 10 o Reoliadau 2026. Mae'r testun Saesneg yn cynnwys dim ond 9 rheoliad. Mae'r testun Cymraeg yn cynnwys 10 rheoliad.
O ganlyniad, mae anghysondebau rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg.
Fodd bynnag, yn fwy sylfaenol, effaith hepgor rheoliad 10 yn y testun Saesneg yw nad yw paragraff newydd 7A o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi’i fewnosod. O ganlyniad, mae darpariaethau eraill sy'n dibynnu ar baragraff newydd 7A o Atodlen 1 (megis rheoliadau newydd 3B ac 11A o'r prif Reoliadau) yn ddiffygiol.
Yn ei dro, mae'r Nodyn Esboniadol yn anghywir gan ei fod yn nodi bod rheoliadau 8 a 9 yn mewnosod rheoliadau newydd 14 a 15 yn y prif Reoliadau, a bod rheoliad 10 yn diwygio Atodlen 1. Mewn gwirionedd, fel y'i drafftiwyd, rheoliad 8 yn unig sy’n mewnosod rheoliadau 14 a 15, mae rheoliad 9 yn diwygio Atodlen 1 ac mae rheoliad 10 wedi’i hepgor yn anghywir.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 6 yn mewnosod rheoliad newydd 11A yn y prif Reoliadau. Mae’n datgan:
11A. Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 6C a pharagraff 4 o Atodlen 1A gynnwys yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 7 a 7A o Atodlen 1.
Mae hyn yn ddryslyd i'r darllenydd gan fod y ddwy Atodlen hyn mewn deddfwriaeth ar wahân. Mae Atodlen 1A yn cyfeirio at Atodlen 1A i Ddeddf 2016, ac mae Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r prif Reoliadau. Byddai'n llawer cliriach pe bai geiriau fel 'i'r Ddeddf' neu 'i’r Rheoliadau hyn' yn cael eu hychwanegu. Nodwn y byddai hyn yn cyd-fynd â'r dull yn rheoliad 4(a)(iv).
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad newydd 14 yn y prif Reoliadau. Mae hyn yn nodi'r wybodaeth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei darparu mewn cais i ganslo ei gofrestriad. Byddem yn ddiolchgar am eglurhad o ddau bwynt mewn perthynas â rheoliad newydd 14.
O dan reoliad newydd 14(a), rhaid i'r darparwr gwasanaeth gynnwys y dyddiad arfaethedig y dylai'r canslo gymryd effaith.
Y ddarpariaeth sylweddol sy'n llywodraethu canslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth yw adran 14 o Ddeddf 2016. Mae'n darparu i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o ganiatáu cais i ganslo i'r darparwr gwasanaeth, ac yn darparu bod canslo o'r fath yn cymryd effaith ar y diwrnod sy'n 3 mis ar ôl cael yr hysbysiad, neu ddyddiad cynharach a bennir yn yr hysbysiad.
Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro sut y bydd rheoliad newydd 14(a) o'r prif Reoliadau yn gweithio ar y cyd ag adran 14(3) o Ddeddf 2016. Yn benodol, o dan ba amgylchiadau y bydd adran 14(3)(a) o Ddeddf 2016 yn gymwys yn ymarferol?
Yn ail, mae rheoliad newydd 14(d) yn nodi bod rhaid i gais canslo gynnwys "manylion unrhyw hysbysiad a roddir ynghylch y bwriad i beidio â darparu’r gwasanaeth”. Ein dealltwriaeth mai bwriad hyn yw cwmpasu unrhyw hysbysiad a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth ynghylch ei fwriad i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau. Os yw hyn yn gywir, rydym o'r farn y byddai'n gliriach nodi "[...] manylion unrhyw hysbysiad a roddir gan y darparwr gwasanaeth ynghylch ei fwriad i beidio â darparu’r gwasanaeth […]”
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad newydd 3B yn y prif Reoliadau. Mae hyn yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru hepgor gofynion gwybodaeth penodol pan fo ymgeisydd yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfyngedig i blant o dan amgylchiadau penodol. Un o'r meini prawf ar gyfer yr hepgoriad yw bod Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol "gan roi sylw i’r wybodaeth a gedwir gan Weinidogion Cymru am y darparwr presennol" (tanlinelliad wedi'i ychwanegu).
O dan amgylchiadau o'r fath, pa asesiad a wneir o addasrwydd a chymhwysedd yr ymgeisydd i gymryd drosodd y gwaith o ddarparu’r gwasanaethau gan ddarparwr gwasanaeth?
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r holl bwyntiau adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
20 Ionawr 2026